HE 24
Y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol
Communities, Equality and Local Government Committee
Bil yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru)/Historic Environment (Wales) Bill

Ymateb gan: Cyngor Sir Ddinbych
Response from:
Denbighshire County Council

 

Diolch yn fawr iawn am wahodd Cyngor Sir Ddinbych i gyflwyno sylwadau ar egwyddorion cyffredinol Bil yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru). Mae'r Cyngor, mewn egwyddor, yn cefnogi’r mesurau canlynol fel y nodir ym Mil yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) a’r canllawiau cysylltiedig drafft:

 

Adran 3 - 'Diwygiadau sy'n ymwneud â'r Gofrestr’: Y broses ymgynghori ac adolygu arfaethedig ar gyfer Henebion ac Ardaloedd Archeolegol.

 

Adran 13 - 'Hysbysiad stop dros dro': Cyflwyno hysbysiadau stop ar gyfer Henebion.

 

Adran 16 – ‘Difrodi henebion hynafol penodol': Tynhau’r telerau y gall y rhai sy'n difrodi Henebion ac Ardaloedd Archeolegol bledio anwybodaeth.

 

Adran 33 - 'Cofnodion Amgylchedd Hanesyddol’: Mae hyn yn darparu sail statudol ar gyfer Cofnodion Amgylchedd Hanesyddol sy'n storfeydd pwysig o wybodaeth ac yn asgwrn cefn penderfyniadau archeolegol o fewn y broses gynllunio. Maent hefyd yn ffynhonnell ddefnyddiol o wybodaeth yn ymwneud ag adeiladau a thirweddau hanesyddol, er bod tarddiad y Cofnodion Amgylchedd Hanesyddol mewn gwybodaeth safleoedd archeolegol yn dal yn amlwg.

 

Fodd bynnag, mae pryder ynglŷn â manylion neu ddiffyg gwybodaeth yn y rhannau canlynol o Fil yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) a dogfennau canllaw drafft cysylltiedig:

 

Adran 16 – ‘Difrodi henebion hynafol penodol': Teimlir bod y mesurau a ddarparwyd ynglŷn ag amddiffyn drwy anwybodaeth yn y bil drafft hwn yn rhy wan. Er y gwerthfawrogir bod dadleuon yn ymwneud â difrod anfwriadol, byddai’n well dileu’r elfen amddiffyn drwy anwybodaeth oherwydd y byddai geiriad y bil drafft yn rhoi lle i’r rheiny sy’n difrodi henebion osgoi erlyniad neu gosb; hynny yw, gair un person yn erbyn y llall. Er enghraifft, nid yw’r elfen amddiffyn drwy ddatgan anwybodaeth yn gyfreithlon o fewn fframwaith y Gyfarwyddeb Cynefinoedd.

 

Adran 33 - 'Cofnodion Amgylchedd Hanesyddol’: Ar gyfer Awdurdodau Cynllunio Lleol nad ydynt eisoes yn deall gwerth a rôl y Cofnodion Amgylchedd Hanesyddol, mae'r geiriad amwys y diffiniad o Gofnod Amgylchedd Hanesyddol, yn arbennig mewn perthynas ag asedau heb eu dynodi (elfen graidd y Cofnod Amgylchedd Hanesyddol) o bosibl yn broblematig. Mae perygl y gallai rhai Awdurdodau Cynllunio Lleol benderfynu cyflawni’r cyfrifoldeb statudol newydd drwy gynnal eu Cofnodion Amgylchedd Hanesyddol eu hunain (h.y. paratoi Cofnod Amgylchedd Hanesyddol gyda’r mymryn lleiaf a amlinellir yn 33[2][a]-[j] gydag ychwanegiadau bychain pellach – gan fod geiriad y bil drafft yn ymddangos fel pe bai’n awgrymu eu hawl i wneud hynny) ar draul cydlyniad y dull Cymru gyfan cyfredol. Mae'r ddogfen ganllawiau ategol (gweler dogfen ddrafft 'Rheoli Cofnodion Amgylchedd Hanesyddol yng Nghymru: Canllawiau Statudol') yn nodi gofynion manwl Cofnod Amgylchedd Hanesyddol a'r trefniadau arfaethedig ar gyfer gwerthuso a meincnodi a yw'r gofynion hyn yn cael eu bodloni. Fodd bynnag, rydym yn teimlo bod angen cryfhau ac egluro’r canllawiau hyn ac y dylid cynnwys mwy o fanylion y gofynion yng ngeiriad y bil ei hun.

 

Mae geiriad y bil drafft yn rhoi dyletswydd ar yr Awdurdodau Cynllunio Lleol i ystyried pa asedau y dylid eu cynnwys ar eu Cofnod Amgylchedd Hanesyddol. A yw hyn yn awgrymu bod pob cofnod yn y Cofnodion Amgylchedd Hanesyddol presennol, a’r ychwanegiadau yn y dyfodol, o fewn ardal Awdurdod Cynllunio Lleol yn gorfod cael eu dilysu gan yr awdurdod ar gyfer eu cynnwys yn eu Cofnodion Amgylchedd Hanesyddol neu graffu arnynt mewn unrhyw ffordd? Gan fod y Cofnodion Amgylchedd Hanesyddol presennol wedi eu llunio dros ddeugain mlynedd yn ôl a chanddo ddegau o filoedd o gofnodion, byddai goblygiadau adnoddau sylweddol ynghlwm wrth hyn. Yn gysylltiedig â hyn, a fyddai Awdurdodau Cynllunio Lleol yn atebol am unrhyw wall yn y Cofnodion Amgylchedd Hanesyddol? A oes proses ar gyfer herio cynhwysion ac a fyddai Awdurdodau Cynllunio Lleol yn gorfod cyfiawnhau cofnodion? Gellir darllen y geiriad fel awgrym mai dim ond Awdurdodau Cynllunio Lleol a gaiff ychwanegu cofnodion ar eu Cofnodion Amgylchedd Hanesyddol. Yn ôl pob tebyg, nid dyma’r bwriad; ni fyddai'n ymarferol i Ymddiriedolaethau Archeolegol yng Nghymru orfod derbyn awdurdodiad Awdurdodau Cynllunio Lleol i ychwanegu cofnodion. A oes modd egluro’r geiriad mewn perthynas â hyn a/neu amlinellu trefniadau cymeradwyo?

 

Rydym, mewn egwyddor, yn cefnogi parhad a ffurfioli trefniadau gydag Ymddiriedolaethau Archeolegol Cymru o ran mynediad at y Cofnodion Amgylchedd Hanesyddol rhanbarthol y maent yn eu rheoli ac wedi eu datblygu. Mae gan yr awdurdod fynediad i Gofnodion Amgylchedd Hanesyddol Ymddiriedolaeth Archeolegol Clwyd a Phowys yn ogystal â System Wybodaeth Ddaearyddol a chronfa ddata ar-lein gwych Cofnodion Amgylchedd Hanesyddol Cymru trwy drefniant anffurfiol, a fydd angen ei ffurfioli maes o law i fodloni gofynion y bil. Nid ydym yn rhagweld y bydd y mesurau arfaethedig yn arwain at unrhyw oblygiadau cost ychwanegol. Mae'r Cofnodion Amgylchedd Hanesyddol yn cael eu rheoli'n dda ac mae’r staff yn gymwys ac yn barod i helpu.

 

Fodd bynnag, o ystyried bod hwn yn gyfrifoldeb statudol y byddwn yn ei allanoli i sefydliad allanol, dylid darparu manylion ychwanegol yn y bil a'r canllawiau ynglŷn ag Ymddiriedolaethau Archeolegol Cymru o ran: llywodraethu (e.e. penodi a chyfnod swydd ymddiriedolwyr; ystyried cynrychiolaeth Awdurdodau Cynllunio Lleol ymhlith ymddiriedolwyr), craffu, gwahanu ac annibyniaeth fasnachol/contract a swyddogaethau curadurol (mae Ymddiriedolaethau Archeolegol Cymru yn elusennau addysgol ac yn fusnesau masnachol - mae’r manylion a roddir ar y mater hwn - dolen i dudalen ar wefan Ymddiriedolaeth Archeolegol Morgannwg Gwent - yn y canllawiau i’r Cofnodion Amgylchedd Hanesyddol sy’n ategu'r bil yn annigonol). Beth fyddai goblygiadau methiant Ymddiriedolaeth Archeolegol yng Nghymru fel busnes ar gyfer cyflawni cyfrifoldeb statudol Awdurdod Cynllunio Lleol mewn perthynas â Chofnodion Amgylchedd Hanesyddol? Rydym yn deall bod ymddiriedolaeth elusennol Cofnodion Amgylchedd Hanesyddol wedi ei sefydlu i ddal data Cofnodion Amgylchedd Hanesyddol ar wahân i Ymddiriedolaethau Archeolegol Cymru, ond mae arnom eisiau mwy o wybodaeth am hyn a manylion y mecanwaith ar gyfer trosglwyddo a chynnal y data. Rydym yn deall bod Cadw wedi ymrwymo i ariannu parhad y Cofnodion Amgylchedd Hanesyddol petai Ymddiriedolaeth Archeolegol yng Nghymru yn methu. Sut y byddai hyn yn gweithio ac a fyddai'n talu’r holl gostau staff ac ati fel na fydd Awdurdodau Cynllunio Lleol yn gorfod cwrdd â chostau sydd ynghlwm wrth fodloni'r gofyniad statudol pe bai Ymddiriedolaeth Archeolegol yng Nghymru yn methu?

 

Adran 25 - 'Diwygiadau sy'n ymwneud â rhestru dros dro’: Mae'r cynnig newydd yn cynnwys diogelu adeilad dros dro "fel pe bai'r adeilad yn adeilad rhestredig". Nid oes unrhyw fecanwaith apelio yn erbyn rhestru ar hyn o bryd, felly mae'r bil yn rhoi cyfle i berchnogion ofyn am adolygiad. Fodd bynnag, mae perygl i Weinidogion Cymru o ran y bydd hyn yn rhoi cyfle i berchnogion wneud hawliad am golled neu ddifrod o ganlyniad i ddiogelu adeilad heb ei restru dros dro.

 

Adran 28 - 'Cytundebau Partneriaeth Dreftadaeth': Mae hwn yn newid sylweddol i'r ddeddfwriaeth, sy'n caniatáu i Weinidogion Cymru neu Awdurdod Cynllunio Lleol i ymrwymo i gytundeb partneriaeth Dreftadaeth gyda pherchnogion neu bobl eraill sydd â diddordeb mewn adeilad rhestredig. Mae angen meddwl yn ofalus am y cytundebau hyn ac mae Cadw wedi nodi y gallai canllawiau ychwanegol a thempled fod yn ddefnyddiol wrth ddrafftio'r cytundebau.

 

Adran 29 - 'Hysbysiadau stop dros dro': Bydd Awdurdodau Cynllunio Lleol yn derbyn pŵer ychwanegol newydd i gyflwyno hysbysiad stop dros dro pan fo gwaith anawdurdodedig yn cael ei wneud ar adeilad rhestredig. Er, mae hyn hefyd yn cyflwyno risg i Awdurdodau Cynllunio Lleol o ran gorfod talu iawndal dan rai amgylchiadau i berchnogion neu bobl eraill sydd â diddordeb yn yr adeilad.

 

Adran 30 – ‘Gwaith brys’: estyn y cwmpas ac adennill costau: Ar hyn o bryd gall cost cynnal gwaith brys yn niffyg tâl gael ei hadennill gan y perchennog drwy’r llysoedd os oes angen. Fodd bynnag, gallai hyn fod yn anodd e.e. pan fo’r perchennog yn gwmni ar y môr neu pan fyddai adennill yn achosi caledi i'r perchennog. Mae'r adran hon yn rhoi pŵer i Awdurdodau Cynllunio Lleol osod arwystl ar yr eiddo. Mae hyn yn bwysig oherwydd ei fod yn cyfeirio at Ddeddf Cyfraith Eiddo 1925 a'r pŵer i orfodi perchennog i werthu eiddo. Os oes gan yr eiddo werth gallai hyn ganiatáu i’r Awdurdod Cynllunio Lleol adennill rhywfaint o’r costau neu holl gostau’r gwaith brys. Fodd bynnag, ar hyn o bryd nid yw'n glir a yw talu’r Awdurdod Cynllunio Lleol yn fwy o flaenoriaeth na thalu eraill e.e. cwmni morgais. Os oes modd adennill y costau neu beidio, mae hwn yn bŵer defnyddiol i newid perchnogaeth pan fo perchennog adeilad rhestredig yn brif achos cyflwr gwael adeiladau.

 

Canllawiau drafft ‘Rheoli Rhestrau o Asedau Hanesyddol o Ddiddordeb Lleol Arbennig yng Nghymru’

 

Mae'r canllawiau ar y rhestr leol yn ddryslyd ac mae pryder ynghylch posibilrwydd gorfod ymgynghori ar gynnwys unrhyw eitem (ased treftadaeth) ar y rhestr. Sut y byddai hyn yn gweithio? Mae’r goblygiadau o ran adnoddau yn ymddangos fel petaent yn waharddol a dweud y lleiaf o ran amser staff. Nid yw'n ymddangos bod y canllawiau yn gwahaniaethu’n ddigon clir rhwng adeiladau a mathau eraill o asedau hanesyddol er gwaethaf y ffaith bod y rhestrau lleol yn deillio mewn adeiladau hanesyddol (a'r hen adeiladau rhestredig gradd III).

 

Ymhellach, bydd angen cynnwys rhestrau lleol yn y Cofnodion Amgylchedd Hanesyddol. Mae pryder hefyd y bydd hyn yn arwain at safon ddwbl yn y mecanweithiau ar gyfer cynnwys safleoedd newydd yn y Cofnodion Amgylchedd Hanesyddol. A allai hyn arwain at ofynion i ymgynghori ar bob ased treftadaeth a gaiff ei gynnwys yn y Cofnodion Amgylchedd Hanesyddol yn y tymor hir? Byddai hyn yn broblematig iawn. Hefyd, a fyddai creu hierarchaeth o asedau 'lleol', rhai wedi eu hymgynghori arnynt a rhai heb eu hymgynghori arnynt, yn tanseilio gwerth y Cofnodion Amgylchedd Hanesyddol fel ystyriaeth berthnasol yn y broses gynllunio?

 

Dogfennau polisi a chanllawiau drafft cysylltiedig (i'w hystyried, ond nid ydynt yn rhan ffurfiol o ymgynghoriad y bil)

 

Yn ôl Cadw, cyn cyhoeddi’r dogfennau’n ffurfiol, bydd yr holl ddogfennau yn destun ymgynghoriad cyhoeddus llawn a fydd o bosibl yn cael ei gynnal ddechrau 2016. Fodd bynnag, pa mor ystyrlon fydd yr ymgynghoriad hwn oherwydd efallai y bydd cwmpas cyfyngedig bryd hynny i wneud newidiadau sylweddol i'r dogfennau (oherwydd y bydd geiriad y bil eisoes wedi ei ffurfioli). Er bod yna swm mawr o wybodaeth i’w darllen, mae’n werth edrych o bosibl ar y dogfennau rŵan oherwydd, ochr yn ochr â'r Memorandwm Esboniadol, byddai’n helpu i wneud synnwyr o rai o'r darnau llai clir yn y bil drafft.Mae hyn yn arbennig o wir o ran y canllawiau Cofnodion Amgylchedd Hanesyddol statudol drafft.

 

Yn gywir